Ymateb i Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar: Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru

 

 

Croesawn ganfyddiadau’r adroddiad a chynigiwn yr ymateb manwl canlynol i’r tri argymhelliad ar ddeg y cawsant eu cynnwys ynddo.

 

Argymhelliad 1 – Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer y Rhaglen yn gyflym i roi’r eglurder angenrheidiol ar gyfer nodau ac amcanion cyffredinol y Rhaglen. Fel isafswm, gellir rhoi’r canllawiau hyn yn y tymor byr, yng nghyd-destun y cynigion ar gyfer grant integredig newydd a goblygiadau Adolygiad o Dai â Chymorth Llywodraeth y DU.

 

Derbyn – Cytunwn y byddai’r sector Cefnogi Pobl yn elwa o ganllawiau diwygiedig gan gynnig datganiad cliriach o ddibenion craidd y rhaglen. Mae canllawiau diwygiedig wedi’u datblygu ac maent yn y broses o gael eu cyfieithu a’u paratoi ar gyfer eu cyhoeddi. Gohiriwyd cynlluniau i’w cyhoeddi yn gynt er mwyn osgoi dryswch diangen wrth i ni symud ymlaen â phrosiect braenaru ariannu hyblyg ond erbyn hyn rydym yn ymrwymedig i’w cyhoeddi cyn gynted â phosib ac erbyn diwedd mis Awst eleni fan bellaf .

 

Argymhelliad 2 – Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu’n agos â sefydliadau rhanddeiliaid allweddol wrth werthuso effaith y rhaglenni peilot ariannu hyblyg ac i benderfynu cwmpas ac amseriad unrhyw integreiddio grant pellach sy’n effeithio ar y Rhaglen Cefnogi Pobl y tu hwnt i 2018-19.

 

Derbyn - Mae  ein cynnig am Grant Ymyrraeth Gynnar, Ataliaeth a Chefnogi integredig newydd yn ymateb i gais awdurdodau lleol i leihau’r cymhlethdodau a grëwyd gan y strwythurau grant presennol i’w galluogi i ail-ddylunio’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu cyflenwi ganddynt a’r nod yn y tymor hirach o wella deilliannau ar gyfer y bobl sydd y fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.

 

Rydym yn ymgysylltu’n helaeth â phob rhanddeiliad y mae posibilrwydd y bydd y cynnig yn effeithio arno:

 

Comisiynwyd gwerthusiad annibynnol a chynigiwyd y contract drwy wasanaeth caffael Llywodraeth Cymru, cyflwynwyd y tendr llwyddiannus gan Wavehill.  

 

Nod cyffredinol y gwerthusiad yw rhoi gwybodaeth ar weithredu grant unigol, er mwyn deall sut y gallai ei gyflenwi effeithio ar gyflawni deilliannau yn y tymor hirach. Bydd yn ceisio cynyddu dysgu i’r eithaf o’r prosiectau braenaru hyblygrwydd llawn a’r prosiectau nad ydynt yn brosiectau braenaru hyblygrwydd a ymestynnwyd yn 2018/19, a  bwydo i weithredu effeithiol Grant Ymyrraeth Gynnar, Ataliaeth a Chefnogi sengl yn 2019/20, pe bai’r penderfyniad hwnnw’n cael ei wneud.

Yn fwy penodol, bydd y gwerthusiad yn gwasanaethu’r nodau canlynol:

a) I ddatblygu ymhellach y model theori newid a’r model rhesymeg ar gyfer y prosiect a phrofi a fyddai’r rhagdybiaethau am y prosiect wedi profi i fod yn gywir.

b) I asesu pa mor effeithiol y mae gweithredu’r grant sengl wedi bod, gan ystyried pa newidiadau a wnaethpwyd gan awdurdodau lleol a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf mewn ymateb i’r prosiect; a wireddwyd aneffeithlonrwyddau, a sut mae hyn yn cymharu â’r hyn a ddisgwylir. Y rheswm dros hyn yw rhoi trosolwg manwl o gynnydd y prosiect hyd yma.

c) I asesu effeithlonrwydd system asesu bresennol y grant a’i addasrwydd wrth symud ymlaen. Yn gysylltiedig â hyn fydd datblygu fframwaith deilliannau, adnabod deilliannau posib y dyfodol, dull ar gyfer mesur y rhain, ac argymhellion ar gyfer gwerthusiadau’r dyfodol.

ch) I ddysgu gwersi gan y flwyddyn gyntaf o ran yr hyn a weithiodd yn dda a’r hyn nad oedd mor llwyddiannus a pham, ac i gymharu hyn â’r nodau a’r amcanion. Bydd hyn yn bwydo i mewn i’r argymhellion i hysbysu’r broses o ddatblygu grantiau yn y dyfodol.

 

Gwnaethpwyd yn glir yn y fanyleb y disgwyliad bod ystod o randdeiliaid, ym maes llywodraeth leol a’r trydydd sector, wedi’u hymgysylltu gan y contractwr yn ystod y gwerthusiad.

 

 

Argymhelliad 3 - Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru’n cymryd saib ac yn myfyrio ar ei dull o ran gwerthuso dichonolrwydd cynnig grant integredig. Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru’n ystyried ymestyn amserlen y prosiect peilot ariannu hyblyg i sicrhau y cynhelir archwiliad trylwyr a manwl o’u heffaith.

 

Gwrthod - Mae ein dull o ran gwerthuso’r grant Ymyrraeth Gynnar, Ataliaeth a Chefnogi arfaethedig yn gynhwysfawr. Fel yr amlinellir yn yr ymateb ar gyfer Argymhelliad 2, rydym wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol gan Wavehill. Yn ogystal â’r gwerthusiad ffurfiol hwn mae ein hymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth amser go iawn ar y broses o weithredu mewn awdurdodau lleol prosiect braenaru. Yn ogystal, rydym wedi comisiynu Cymdeithas Trysoryddion Cymru i roi dadansoddiad o’r effeithlonrwyddau gweinyddol a gwasanaeth posib y gellid eu cynhyrchu trwy weithio mewn ffordd wahanol, i gydweddu’r gwerthusiad annibynnol. Yn naturiol, os byddwn yn canfod bod tystiolaeth annigonol i gefnogi gweithredu cyflawn ar hyn o bryd, byddwn yn adolygu’r sefyllfa.

 

Mae ein gwerthusiad annibynnol wedi’i strwythuro mewn ffordd a fydd yn darparu tystiolaeth barhaus i hysbysu ein hasesiad gweithredu. Golyga ein dull yn seiliedig ar ymchwil weithredu ein bod yn cynnal trafodaethau cyson â’r gwerthuswyr sy’n rhoi adborth parhaus ar eu canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg a disgwylir adroddiad cyntaf ym mis Medi. Disgwylir adroddiad terfynol ym mis Mai a fydd yn crynhoi profiadau awdurdodau lleol y prosiect braenaru a’r newidiadau yn y trefniadau gwaith a’r ffordd o gyflenwi gwasanaeth y gellir eu priodoli i’r trefniadau grant integredig. Disgwylir, o ganlyniad i’r nifer o feysydd sy’n creu eu strategaeth werthuso, y byddwn wedi ennill gwerthfawrogiad da o’r effeithiau hyn cyn y cyflwynir adroddiad terfynol y gwerthusiad annibynnol.

 

Wrth gyflwyno grant sengl disgwylir gweld nifer o newidiadau o ran sut mae awdurdodau lleol y prosiect braenaru yn cynllunio, yn comisiynu ac yn cyflenwi gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed. Bydd ein gwerthusiad yn darparu tystiolaeth o ran a yw newidiadau o’r math yn digwydd. Byddwn yn edrych, yn benodol, am dystiolaeth bod:

 

Priodolir y Grant Ymyrraeth Gynnar, Ataliaeth a Chefnogi ar set o ddeilliannau sy’n adlewyrchu nodau ac amcanion y 10 rhaglen gyfansoddol. Rydym yn parhau i gasglu ystod o wybodaeth ar berfformiad a rheoli sy’n berthnasol i bob rhaglen gyfansoddol a bydd hyn yn galluogi i ni asesu unrhyw newidiadau o ran cyflenwi.

 

Credwn y bydd yr ystod gynhwysfawr hon o wybodaeth, tystiolaeth a data yn galluogi i ni gynnal archwiliad trylwyr a manwl o weithredu’r grant sengl. Fel y nodir uchod, pe bai’n ymddangos bod y wybodaeth, y dystiolaeth a’r data hyn yn annigonol, byddwn wrth reswm yn ystyried a fyddai’n fwy priodol i ymestyn y prosiect braenaru. 

 

Argymhelliad 4 – Argymhellwn, fel rhan o’i gwaith gwerthuso, bod Llywodraeth Cymru yn adnabod yn glir i ba raddau y mae awdurdodau lleol unigol wedi manteisio ar yr hyblygrwydd ariannu a ddarparwyd a sut mae hyn wedi cefnogi deilliannau gwell.

 

Derbyn – Ein bwriad, trwy’r amrywiaeth o feysydd gwaith sy’n cwmpasu ein strategaeth werthuso, yw adnabod sut mae awdurdodau lleol wedi manteisio ar yr hyblygrwydd ariannu a ddarparwyd. 

 

Roedd gofyniad ar awdurdodau lleol prosiect braenaru, fel rhan o broses gwneud cais Grant Ymyrraeth Gynnar, Ataliaeth a Chefnogi, i nodi sut roeddent yn bwriadu aildrefnu ac ail-gyflunio cyflenwi gwasanaeth. Gosododd y cynlluniau cyflenwi a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru cyn y flwyddyn ariannol 2018-19 gynigion cychwynnol awdurdodau lleol ar gyfer dulliau newydd tuag at gyflenwi gwasanaethau.  Er enghraifft trwy gronni adnoddau i gyflenwi dull unigol cydlynol a mwy strategol tuag at ddarparu gwasanaethau ar gyfer goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mewn awdurdod lleol arall maent yn manteisio ar y cyfle i ddatblygu cronfa ddata unigol gan gynnwys un golwg ar gyfer yr unigolyn i fonitro deilliannau’n well. Bydd y data hwn yn helpu i adnabod unrhyw fylchau neu ddyblygu mewn gwasanaethau a bydd yn mesur llwyddiant ymyriadau yn fwy cadarn. Mae awdurdodau lleol hefyd yn ystyried sut i lyfnhau’r trefniadau gweinyddu a monitro o dan gynlluniau grant presennol, ac mae gwaith yn symud yn ei flaen i ddeall ystod a graddfa’r gweithgarwch a nifer y rolau sy’n cyflawni’r gwaith hwn ar hyn o bryd. Mae cyfarfodydd misol y prosiect braenaru yn canolbwyntio ar y cyfleoedd gwahanol maent yn manteisio arnynt i gynyddu’r rhannu a’r dysgu i’r eithaf.

 

Yn gyffredinol, byddwn yn ystyried a yw awdurdodau lleol y prosiect braenaru wedi manteisio ar gyfle’r grant sengl newydd i wella gweinyddu, lleihau biwrocratiaeth a gyrru gwelliannau ac effeithlonrwyddau yn eu sefydliadau eu hunain. Yn bwysicaf oll, byddwn yn dymuno deall sut bydd y trefniadau hyn yn galluogi iddynt arloesi a newid cyflenwi gwasanaethau a’r nod o wella deilliannau ar gyfer grwpiau sy’n agored i niwed sef ffocws y rhaglenni cyfansoddol. Byddwn hefyd yn ceisio deall sut mae awdurdodau lleol y prosiect braenaru yn defnyddio’r trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd ym maes llywodraeth leol i graffu ar y penderfyniadau y maent yn eu gwneud i sicrhau bod gwasanaethau’n ymateb i anghenion lleol.

 

Ein nod wrth symud awdurdodau lleol y prosiect braenaru yn eu blaen yw archwilio’r cwmpas a’r cyfleoedd ar gyfer creadigrwydd ac arloesed mwy i wasanaethu dinasyddion yn well.

 

Ymhlith nodau’r gwerthusiad annibynnol a gynhelir gan Wavehill mae asesu pa mor effeithiol oedd y gweithredu, ystyried pa newidiadau a wnaethpwyd gan awdurdodau lleol ac ystyried a oes modd gwireddu effeithlonrwyddau. Bydd hefyd yn asesu effeithlonrwydd y system fonitro bresennol a’i haddasrwydd wrth fynd ymlaen.

 

Mae ein cyfarfodydd misol ag awdurdodau lleol y prosiect braenaru yn canolbwyntio ar weithredu ffyrdd newydd o weithio wedi’u galluogi gan drefniadau’r grant sengl. Er enghraifft, mae awdurdodau lleol wedi rhannu eu profiadau o ran gweithredu’r trefniadau newydd ar gyfer cefnogi goroeswyr camdrin domestig a datblygu gwasanaethau cefnogi mewn cyflogaeth mwy integredig. 

 

Mae asesu effaith newidiadau i wasanaethau ar ddeilliannau ar ddinasyddion yn gymhleth. Mae cadarnhau achosiaeth ac ynysu effeithiau yn newid yng nghyd-destun nifer o rai eraill yn heriol iawn. Er enghraifft, mae nifer o’r grwpiau sy’n agored i niwed rydym yn ceisio eu cefnogi wedi cael eu heffeithio gan newidiadau diwygio lles a rhoi credyd cynhwysol ar waith a byddant yn parhau i gael eu heffeithio ganddo. Mae’n werth nodi gall natur gytundebol rhai o’r gwasanaethau a gyflenwir fel rhan o’r rhaglen hon rwystro newid cyflym ar lawr gwlad.

 

Argymhelliad 5 – Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru’n adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ddeilliannau’r gwaith i hwyluso monitro deilliannau cymaradwy ar gyfer grwpiau cleient gwahanol. Hoffai’r Pwyllgor glywed am ddeilliannau gwaith gwerthuso ehangach Llywodraeth Cymru yn ogystal ac argymhellwn fod y canfyddiadau’n cael eu hadrodd yn ôl i ni ar sail ffurfiol.

 

Derbyn – Drwy gydol 2018-19 byddwn yn parhau i gasglu data perfformiad ar draws y 10 rhaglen wedi’u cynnwys yn y Grant Ymyrraeth Gynnar, Ataliaeth a Chefnogi ar yr un sail â blynyddoedd blaenorol ar gyfer awdurdodau lleol y prosiect braenaru a’r awdurdodau lleol nad ydynt yn rhan o’r prosiect braenaru. Bydd hyn yn galluogi i ni gymharu a monitro unrhyw dueddiadau. Eir canfyddiadau arolwg annibynnol a gynhelir gan Wavehill ar ran Llywodraeth Cymru yn eu blaen yn unol â phrotocolau Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ac, yn unol ag arfer da, cânt eu cyhoeddi ar ôl iddynt gael eu terfynu ac rydym yn hapus i rannu hyn, a’r adroddiad interim, gyda’r Pwyllgor.     

 

Argymhelliad 6 - Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn ailystyried y grantiau a gynigir ganddi i gynnwys ffrwd ariannu integredig, gan roi ystyriaeth benodol, fel rhan o ddatblygiadau’r dyfodol, i deilyngdodau o ran integreiddio Cefnogi Pobl gyda grantiau tai a digartrefedd yn unig.

 

Derbyn  – Canolbwyntiodd ein gwaith cychwynnol mewn datblygu dull mwy integredig at gefnogi pobl sy’n agored i niwed, sy’n dyddio yn ôl i 2015, ar bedair rhaglen a anelwyd yn bennaf at fynd i’r afael â thlodi – Cefnogi Pobl, Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg a Chymunedau’n Gyntaf. Mewn ymateb i’r trafodaethau parhaus a sefydlwyd ag awdurdodau lleol gofynnwyd i ni ystyried a fyddai modd cwmpasu ystod ehangach o raglenni o ganlyniad i’r synergedd posib yn nhermau nodau a deilliannau a geisir.  O ganlyniad, mae’r 10 rhaglen bresennol wedi’u cynnwys yn y Grant Ymyrraeth Gynnar, Ataliaeth a Chefnogi sy’n cael ei symud yn ei blaen gan awdurdodau lleol y prosiect braenaru. 

 

Fel rhan o’r trafodaethau parhaus gyda rhanddeiliaid, ac wrth fyfyrio ar y dystiolaeth werthuso sy’n dod i’r amlwg, byddwn yn ystyried a yw’r rhaglenni hyn, neu raglenni eraill, yn cynrychioli’r cymysgedd cywir o wasanaethau ymyrraeth gynnar, ataliaeth a chefnogi a’r synergedd rhyngddynt. Dros amser, efallai y byddwn hefyd yn dymuno ystyried a allai rhaglenni eraill gael eu cynnwys yn ogystal i alluogi i awdurdodau lleol ddarparu cefnogaeth fwy cyfannol i ddinasyddion. 

 

Ein hystyriaeth bennaf fydd a ydy awdurdodau lleol y prosiect braenaru wedi manteisio ar gyfle y grant sengl newydd i wella gweinyddu, lleihau biwrocratiaeth a gyrru gwelliannau ac effeithlonrwyddau yn eu sefydliadau eu hunain. Yn bwysicaf oll, rydym yn dymuno deall sut bydd y trefniadau hyn yn galluogi iddynt arloesi a newid dulliau cyflenwi gwasanaethau a’r nod o wella deilliannau ar gyfer grwpiau sy’n agored i niwed y canolbwyntir y rhaglenni cyfansoddol arnynt. Fel rhan o hyn byddwn yn ceisio deall sut gallai grant ar wahân sy’n canolbwyntio ar wasanaethau’n gysylltiedig ar dai yn unig hefyd geisio diwallu’r nodau integredig a nodwyd.

 

Argymhelliad 7 – Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn meintioli’n glir i ba raddau y gellid gwneud arbedion ariannol trwy ostwng costau gweinyddu a chyflenwi gwasanaethau mewn ffordd fwy effeithlon trwy ei chynigion grant integredig. Dylai’r gwerthusiad hwn gynnwys sicrwydd y gellir cyflenwi’r arbedion effeithlonrwydd yn ardaloedd awdurdodau lleol y prosiect braenaru mewn mannau eraill.

 

Gwrthod –  Yn dilyn gwaith blaenorol a gyflawnwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a barnau a fynegwyd yn gyson gan Lywodraeth Cymru, mae achos y dylai integreiddio grantiau leihau’r lefel o gorbenion gweinyddu a chynyddu hyblygrwydd o ran defnyddio’r ariannu. Byddwn yn asesu’r cyfleoedd ar gyfer yr enillion effeithlonrwydd fel rhan o’n gwerthusiad. Fodd bynnag gall graddfa’r arbedion, y gostyngiadau mewn costau ac, yn fwy hanfodol, ail-fuddsoddi enillion gael eu cyfrif gan awdurdodau lleol y prosiect braenaru eu hunain gan ddefnyddio eu gwybodaeth gyllidebol fewnol fanwl eu hunain. Rydym, felly, wedi gofyn i Gymdeithas Trysoryddion Cymru roi asesiad o’r cyfleoedd y gellid eu cynhyrchu drwy weithio’n wahanol. Credwn y dylid gwneud yr argymhelliad hwn ar y cyd â Llywodraeth Leol.

 

Mae’r dull rydym yn ei ddefnyddio gydag awdurdodau lleol y prosiect braenaru wedi’i ffocysu ar ennill dealltwriaeth well o arfer da a’r gwelliannau y gellid eu gwneud i gyflenwi gwasanaethau trwy integreiddio mwy a thrwy ffocws ar rannu dysgu oddi wrth awdurdodau lleol y prosiect braenaru a’r awdurdodau lleol nad ydynt yn rhan o’r prosiect braenaru.

 

Dangosodd y gyllideb ddrafft gyfanswm fod cyllideb a gyfunwyd ar gyfer ‘grant ymyrraeth gynnar, ataliaeth a chefnogi’ yn 2019-20 5% yn llai na chyfanswm y grantiau unigol yn 2018-19. Adlewyrchodd hyn yr angen i wireddu arbedion ar draws yr ystod o weithgareddau Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r broses gyllidebol barhaus, byddwn yn parhau i adolygu’r swm y mae ei angen i gyflenwi’r deilliannau angenrheidiol yn ystod y broses gynllunio ar gyfer cyllideb 2019-20. 

 

Gan adlewyrchu’r diogelwch a gytunwyd gan Weinidogion ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl yn 2018-19 a 2019-20 mae’r canllawiau ariannu hyblyg yn nodi’n glir ein disgwyliad bod ‘yn rhaid i awdurdodau lleol ddyrannu ariannu i’r rhaglen Cefnogi Pobl ar lefel y dyraniad Cefnogi Pobl fel isafswm oni bai y gall yr awdurdod lleol ddangos y gall fod yn sicr o gyflenwi’r un gwasanaethau neu wasanaethau gwell am lai o arian o ganlyniad i effeithlonrwyddau’.

 

Argymhelliad 8 – Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru’n egluro rôl y Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol yng nghyd-destun prosiectau peilot ariannu hyblyg a phe bai grant integredig yn cael ei roi ar waith yn y dyfodol.

 

Derbyn – Mae’r Grant Ymyrraeth Gynnar, Ataliaeth a Chefnogi arfaethedig yn cynnwys nifer o raglenni, ceir trefniadau gweithio rhanbarthol gwahanol ar draws y rhain. Gofynnwyd i awdurdodau lleol roi manylion am eu dulliau o weithio’n rhanbarthol fel rhan o’u cynlluniau cyflenwi. Mae gweithio’n rhanbarthol yng nghyswllt Cefnogi Pobl wedi profi cynnydd cymysg. Er hynny, rydym yn awyddus i adeiladu ar unrhyw gynnydd a brofwyd hyd yma.  

 

Mae swyddogion eisoes wedi cyfarfod â Chadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol (RCC) yn ogystal â’r Cydgysylltwyr Datblygu Rhanbarthol i drafod sut gallant weithio gydag awdurdodau lleol y prosiect braenaru ac awdurdodau lleol nad ydynt yn rhan o’r prosiect braenaru. Fel rhan o’r gwaith hwn cynhelir arolwg o ran sut mae perthnasoedd rhwng aelodau’r RCC a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio. Bydd hyn yn caniatáu i ni asesu beth yw’r rhwystrau a’r galluogwyr o ran gweithio’n effeithiol yn rhanbarthol a bydd yn hwyluso ystyried sut y gellid datblygu trefniadau rhanbarthol mewn unrhyw drefniadau grant newydd yn effeithiol. Bwriadwn gadw gweithio’n rhanbarthol fel rhan allweddol gan gydnabod efallai y bydd angen iddo addasu i adlewyrchu unrhyw drefniadau newydd.  

 

Argymhelliad 9 – Wrth ochr ei gwerthusiad o brosiectau peilot ariannu hyblyg, argymhellwn fod Llywodraeth Cymru’n cynnal arolwg brys i archwilio a yw comisiynwyr yn profi trafferthion o ran denu ceisiadau ar gyfer gwasanaethau Cefnogi Pobl o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch ariannu.

 

Derbyn – Byddwn yn comisiynu darn o waith gyda chomisiynwyr i ddeall eu profiadau. Lle y bo angen, byddwn yn dilyn y darn hwn o waith gyda darpar ymgeiswyr i ddeall pa rwystrau all fodoli ac effaith ansicrwydd ar eu sefyllfa. Cwblheir hyn erbyn yr Hydref 2018.

 

Argymhelliad 10 – Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor parthed ei hymateb i argymhelliad yr Archwilydd Cyffredinol o ran y fformiwla ariannu i gadarnhau ei bwriad. Dylai’r diweddariad hwn gynnwys manylion am sut mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu dyrannu’r gyllideb gyffredinol i awdurdodau lleol ar gyfer unrhyw grant integredig tra hefyd yn sicrhau ei fod yn seiliedig ar anghenion.

 

Derbyn – Yn ein hymateb i’r Archwilydd Cyffredinol roeddem yn glir o ran yr effaith y byddai unrhyw ailddosbarthu’n ei chael ar awdurdodau lleol ac ar wasanaethau.

 

Wrth gyflwyno’r cynigion integreiddio grant erbyn hyn ceir dimensiwn ychwanegol o ran ystyried effaith materion dosbarthu o fewn grantiau eraill. Caiff yr ansicrwydd hwn ei gymhlethu ymhellach gan yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer yr Adolygiad o Dai â Chymorth (SAR) ym mis Ebrill 2020 a fydd yn rhoi adnoddau ychwanegol, a chysylltiedig, o’r system Les i gyllidebau Cymru. Hyd yn hyn, rydym yn ansicr o ran yr effaith a geir gan ddosbarthu’r arian.

 

O ganlyniad, mae’n debyg y byddai unrhyw ymgais i ddatrys anghysondebau yn nosbarthiad arian Cefnogi Pobl ar wahân yn arwain at brofi effeithiau ansefydlogi ailddosbarthu ddwywaith oherwydd gallai adael elfennau allweddol eraill, â dosbarthiadau nad ydynt yn seiliedig ar anghenion, y byddai angen mynd i’r afael â hwy yn nes ymlaen.

 

Gan gadw hyn mewn cof, nid ydym yn bwriadu symud gwaith ailddosbarthu yn ei flaen o fewn yr amserlen wreiddiol sef ei roi ar waith erbyn mis Ebrill 2020. Tra bod ein huchelgais i gyflawni dosbarthiad sy’n adlewyrchu anghenion yn fwy cywir yn parhau, credwn y byddai cymryd dull cyfannol i’r gwaith hwn yn well ar ôl i’r holl ffactorau eraill gael eu deall. Yn y cyfamser, disgwyliwn ddosbarthu unrhyw grant integredig yn y man cychwyn, ar sail lefelau ariannu gwaddol y grantiau perthnasol a dyna’r sail a ddefnyddir ar gyfer dyrannu ariannu o dan Ariannu Hyblyg.

 

Argymhelliad 11 – Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ei hymrwymiad i’r gweithredoedd a nodwyd yn flaenorol mewn ymateb i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol o ran gwasanaethau anableddau dysgu a meincnodi costau gwasanaethau.

 

Derbyn – Rydym yn hapus i gadarnhau’r ymrwymiad hwn a’r amserlen ar gyfer y gwaith o adolygu gwybodaeth Cynllun Gwariant Cefnogi Pobl erbyn mis Ebrill 2019.

 

Argymhelliad 12 – Rydym hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n defnyddio dull tebyg i edrych ar y mater o amrywiadau rhwng awdurdodau lleol yn narpariaeth Cefnogi Pobl ar gyfer grwpiau penodol eraill, gan gynnwys unrhyw wahaniaethau amlwg eraill yn y mathau o gefnogaeth h.y. sefydlog neu gyfnewidiol.

 

Derbyn – Mae gennym y wybodaeth angenrheidiol i gyflawni hyn o fewn y wybodaeth fonitro a gesglir fel rhan o’n telerau ac amodau grant presennol a byddwn yn cynnal dadansoddiad o lefel yr amrywiad. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod yn glir y cynhelir cynllunio strategol ar gyfer cyflenwi gwasanaethau Cefnogi Pobl ar lefel awdurdodau lleol o fewn cyd-destun gweithio mewn partneriaeth trwy’r RCC. Gall amrywiadau fod yn adlewyrchiad go iawn o natur anghenion lleol a dulliau lleol ac nid yw, yn ei hun, yn nodi bod problem yn bodoli. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried sut gallwn rannu gwybodaeth o ran amrywiadau gydag awdurdodau lleol mewn ffordd sy’n caniatáu iddynt feincnodi eu hunain a rhoi sicrwydd i’w hunain bod dulliau lleol yn parhau i fod y ffordd fwyaf effeithiol o gyflenwi’r deilliannau gorau erbyn mis Ebrill 2019 yn unol â gwaith arall a gyflawnir ar amrywiadau.

 

Argymhelliad 13 – Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau a hyfforddiant cynhwysfawr i sicrhau bod unrhyw fframwaith deilliannau diwygiedig, ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl, neu ar gyfer unrhyw grant integredig, wedi’i ddeall yn glir a chaiff ei ddefnyddio’n rheolaidd ar draws Cymru o’r cychwyn cyntaf.

 

Derbyn – Boed bod fframwaith y dyfodol yn benodol i raglen Cefnogi Pobl neu’n cwmpasu set ehangach o ddeilliannau sy’n berthnasol ar gyfer mecanwaith grant integredig, rydym yn cydnabod pa mor bwysig ydyw i gyflawni defnydd cyson a chywir o’r fframwaith a byddwn yn cefnogi comisiynwyr a darparwyr i gyflenwi hyn drwy arweiniad a hyfforddiant. Mae’r gwelliannau rydym yn ceisio eu gwneud i ariannu gwasanaethau cefnogi a gwasanaethau ataliaeth yn seiliedig ar wella ffocws pawb ar y deilliannau a gyflawnwyd ac mae’n hanfodol bod modd i ni ddefnyddio fframweithiau deilliannau i sicrhau bod partïon yn atebol trwy wybodaeth gadarn a chredadwy. Llunnir datblygiad a dull gweithredu’r fframwaith i gyflawni hyn. Erbyn hyn mae gwaith yn dechrau, gan adeiladu ar waith presennol ar draws y 10 ffrwd grant, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, i ddatblygu’r fframwaith. Rydym yn cydnabod y bydd symud i ddull sy’n hollol seiliedig ar ddeilliannau yn cymryd amser a bydd yn gofyn am weithio cydweithredol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid.